Funded by Welsh Government, Adoption UK (AUK) Cymru are delighted to offer free online training to Early Years, Primary and Secondary schools and education settings. 

In the three-hour session, explore why adopted and care experienced learners may have challenges in regulating their behaviour and learn about strategies to support them effectively and compassionately.

 

The training will be led by AUK Cymru’s Education Lead, Julie Moseley, an adopter and teacher with 33 years experience to SLT level. They will provide examples of good practice and top tips from adoptees and adopters to give school staff an opportunity to find out about strategies that work.

Adoption UK can offer this half-day training for school INSET days, either online or in person. We can also deliver this training in Welsh if requested.

For any questions, please contact AUK Education lead [email protected]

Register for the fully funded training here

 

Education Cafe drop-in sessions

There will also be 12 drop-in ‘Education Cafes facilitated by the Psychology and Therapy Hub (PATH) and education specialist staff. These will allow you to explore specific areas in depth, discuss how to implement strategies in your own context, and share good practice with colleagues.

Register for drop-in 'Education Cafe' sessions here

 

All behaviour is communication!

In 2022 the Adoption UK Barometer survey found that 62% of adopted children in school experienced social, emotional and behavioural difficulties.  This provides challenges for children, schools and parents and can mean that children are unable to take their place in the classroom.  They are twice as likely to be excluded and in 2023, 17% had been a put on a reduced timetable or asked not to attend school events.

 

Find out about other education training AUK can provide for schools and LAs

 

 

 


Hyfforddiant wedi'i Ariannu'n Llawn: Cefnogi dysgwyr â phrofiad o ofal: Defnyddio dull sy'n ystyriol o drawma mewn perthynas ag ymddygiad

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Adoption UK (AUK) Cymru yn falch iawn o gynnig hyfforddiant ar-lein rhad ac am ddim i ysgolion a lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, Ysgolion Cynradd ac Ysgolion Uwchradd. Yn y sesiwn tair awr, byddwch yn archwilio pam y gallai dysgwyr sydd wedi eu mabwysiadu ac sydd â phrofiad o ofal brofi heriau wrth reoleiddio eu hymddygiad a dysgu am strategaethau i'w cefnogi'n effeithiol ac yn dosturiol. 

Julie Moseley
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei arwain gan Arweinydd Addysg AUK Cymru, mabwysiadwr ac athro sydd â 33 mlynedd o brofiad i lefel UDRh. Byddant yn darparu enghreifftiau o arferion da ac awgrymiadau gorau gan bobl wedi’u mabwysiadu a mabwysiadwyr i roi cyfle i staff ysgol gael gwybod am strategaethau sy'n gweithio.

Gall Adoption UK hefyd gynnig yr hyfforddiant hanner diwrnod hwn ar gyfer diwrnodau HMS ysgol, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn ysgolion.  

Am unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag arweinydd Addysg AUK [email protected]

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu sesiwn cliciwch ar y ddolen ganlynol. https://www.eventbrite.com/cc/challenging-behaviour-in-care-experienced-learners-3790163

  

'Caffi Addysg'

Hefyd, bydd 12 'Caffi Addysg' galw heibio wedi’u hwyluso gan hwb seicoleg a therapi a staff arbenigol addysg. Bydd y rhain yn caniatáu i chi archwilio meysydd penodol yn fanwl, trafod sut i weithredu strategaethau yn eich cyd-destun eich hun, a rhannu arfer da gyda chydweithwyr. 

 

Mae pob ymddygiad yn gyfathrebu!

Yn 2022 fe wnaeth arolwg Baromedr Mabwysiadu DU o rieni sydd wedi mabwysiadu ledled y DU ganfod bod 62% o blant wedi’u mabwysiadu yn yr ysgol wedi profi anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Mae hyn yn cyflwyno heriau i blant, ysgolion a rhieni a gall olygu nad yw plant yn gallu cymryd eu lle yn yr ystafell ddosbarth. Maen nhw ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu heithrio ac yn 2023 roedd 17% wedi cael eu rhoi ar amserlen lai neu wedi cael cais i beidio â mynychu digwyddiadau ysgol.